Songtexte.com Drucklogo

'Nol A 'Mlaen Songtext
von The Leaves

'Nol A 'Mlaen Songtext

Pob un cam yn oll-gyfarwydd,
Ac wrth ffoi o dre dy fedydd
Ti′n bwrw angor heb fygwth newid.
Gweld dy hun fel rhan o'r tirlun,
Ti′n troi dy law at boeri gwenwyn,
Pam taflu baw ar bob un dieithryn?

Tymor ar ôl tymor ti'n clywad newid yn sŵn y don,
Siglo'n ôl a blaen rhwng y nef a ddaear,
Oes yn eiliad - dyna′r dyddiau′n rhewi,
Wyt ti'n gaeth yn dy filltir sgwâr di?


Rhaid wrth wae ar droad canrif,
Ceisio cwtogi′r anghyfarwydd,
Wel, sgen ti ateb aderyn drycin?
Llawenhawn yn oll unedig
Heb daflu gwawd fy mrawd colledig,
Cawn weld yr aur ar y wawr drwy'r machlud.

Tymor ar ôl tymor ti′n clywad newid yn sŵn y don,
Siglo'n ôl a blaen rhwng y nef a daear,
Tymor ar ôl tymor ti′n clywad newid yn sŵn y don,
Siglo'n ôl a blaen rhwng y nef a daear,
Oes yn eiliad a'r dyddiau′n rhewi
Rhwng dy fodd a′th anfodd.
Wyt ti'n gaeth i dy filltir sgwâr di?
Ti′n colli arni, ti'n colli arni.

Wyt ti′n gaeth i dy filltir sgwâr di?

Tymor ar ôl tymor ti'n clywad newid yn sŵn y don,
Siglo′n ôl a blaen rhwng y nef a ddaear,
Tymor ar ôl tymor ti'n clywad newid yn sŵn y don,
Siglo'n ôl a blaen rhwng y nef a ddaear,
Oes yn eiliad - dyna′r dyddiau′n rhewi,
Wyt ti'n gaeth i dy filltir sgwâr di?

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Beliebte Songtexte
von The Leaves

Quiz
Wer will in seinem Song aufgeweckt werden?

Fans

»'Nol A 'Mlaen« gefällt bisher niemandem.