Songtexte.com Drucklogo

Aberhonddu Songtext
von Carreg Lafar

Aberhonddu Songtext

Clywai′r tabwrdd efo'r chiwban,
′Nawr yn datgan 'Tôn y Cam',
Daeth y diwrnod, byddych barod,
Rhaid ymado â gwlad eich mam;
De′wch bob dynyn, rhaid yw cychwyn,
A chyn bo terfyn ar ein taith,
Ni gawn deithio hir filldiroedd
Dros y tir a′r moroedd maith.

Trwm yw'r newydd, tra mawr niwed,
Rhaid yw myned, dyma′r modd;
Gado bryniau gwlad ein tadau,
Oer yw'r geiriau iw′r rhoi ar go'dd;
Gado Cymru, ardal wiwgu,
Fwyn lle darfu i′n gael ein bod,
Aí thrigolion hylon haeledd,
Llawn o rinwedd llon erio'd.


Nid oes gwyned 'nawr â gwenau,
Oer yw′r geiriau, dagrau gwr,
Ansirioldeb ydw′r nodeb
Sydd ar wyneb pob rhyw wr;
Rhaid yw gadael 'nawr y lwysdref,
Lle bu′n cartref flwyddyn bron,
Tref careiddlu, ynghanol Cymru,
Aberhonddu lwysgu lon.

Dacw fwg y dre'n diflanu,
Dacw′r teiau, muriau mawr;

Yn ymddangos, (olwg decaf),
Y tro diweddaf inni 'nawr;
Dacw′r Arfdy^ lle bu'n llety,
Dacw'r gloch-dy^ Eglwys Fair,
Ac ar ei ben ef geiliog amlwg,
Yn cilio o′n golwg gydâ′r gair.

Dacw'r Banau, brenin bryniau,
Yn dal ei wenau uwch y dref;
Ond yn fuan, dyma′r cwynfan,
Mwy 'chawn wel′d mo honaw ef;
Rhaid in' bellach, rhaid in′ bellach,
Ganu'n iach, er cwyno'r hir;
Ac o′m cwynion a′m hoch'neidion,
Cleddir fi mewn estron dir. (^after y means it should sit on top of the previous letter)

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Beliebte Songtexte
von Carreg Lafar

Fans

»Aberhonddu« gefällt bisher niemandem.