Songtexte.com Drucklogo

Dos yn dy Flaen Songtext
von Bwncath

Dos yn dy Flaen Songtext

Wyt ti′n cofio braf oedd nosweithiau'r haf
Pan oedda ni yn chwarae yng ngolau′r stryd
Yr blant i'r byd, heb unrhyw gyfrifoldeb
Cyn i lais prysurdeb ddod â'i gŵyn, i dy swyno

A′i hud, i ′neud chdi deimlo'n gaeth, ond yn waeth
A wnaeth i chdi anghofio am dy ffydd
I dorri′n rhydd, rhyw ddydd yn dy ddyfodol
'Di′r amodau sy'n ddelfrydol byth am ddod

Dos yn dy flaen, yn groes i′r graen
Ti 'di bod ffordd hyn o'r blaen
Drwy y drysau sy′n dy feddwl dy hun
Dos yn y nos i weld y sêr
Sy′n treiddio'r asgwrn at y mêr
At yr heddwch sydd yng nghanol pob un
Ar yr heddwch sy′n dy ganol di

Dyro dy sgidia 'mlaen, fel o′r blaen
Dos i weld y dail yng ngola'r haul
Mi glywi′r floedd sy'n galw o'r mynyddoedd
A′r sibrwd sy′n dy ddenu at y môr


Dos yn dy flaen, yn groes i'r graen
Ti ′di bod ffordd hyn o'r blaen
Drwy y drysau sy′n dy feddwl dy hun
Dos yn y nos i weld y sêr
Sy'n treiddio′r asgwrn at y mêr
At yr heddwch sydd yng nghanol pob un
Ar yr heddwch sy'n dy ganol di

A chwilia'r llawr i gasglu pren
Tra mae′r nefoedd uwch dy ben
Cynna dân bach i g′nesu dy hun
Gan gadw'th draed ar y llawr
A dy feddwl ar yn awr
A dy fryd ar un byd yn gytûn

Dos yn dy flaen, yn groes i′r graen
Ti 'di bod ffordd hyn o′r blaen
Drwy y drysau sy'n dy feddwl dy hun
Dos yn y nos i weld y sêr
Sy′n treiddio'r asgwrn at y mêr
At yr heddwch sydd yng nghanol pob un
Ar yr heddwch sy'n dy ganol di

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Quiz
Wer ist gemeint mit „The King of Pop“?

Fans

»Dos yn dy Flaen« gefällt bisher niemandem.