Songtexte.com Drucklogo

Clywed Dy Lais Songtext
von Bwncath

Clywed Dy Lais Songtext

Ma′i mor braf clywed dy lais
Yn fy ngalw i yn ôl o'r paith
O′r diffeithch fuodd gynt
Yr wyf yn hwylio ar y gwynt

Dw i 'di bod ers amser maith
Yn chwilio'n daer am byllau dŵr ar y daith
Erbyn hyn ma′ nghwddw′n sych
Mi fodlona i ar gysgod y gwrych

Mi welais ddŵr mor glir, 'doedd o′m yn wir
Dim ond gwres yn dawnsio ar dir


Ma'i mor braf clywed dy lais
Yn fy ngalw i yn ôl o′r paith
O'r diffeithch fuodd gynt
Yr wyf yn hwylio ar y gwynt

Daeth dy lais yn rhan o ′myd
Yn fuan iawn ar ôl mi adael y crud
I fy hebrwng fesul troed
Tua'r glastir bras lle tyfai y coed

Es i ar goll cyn hir mewn anial dir
Collais olwg ar y gwir

Galw fi yn ôl
Am lymaid bach o ddŵr
Galw fi yn ôl
Am lymaid bach o ddŵr


Ma'i mor braf clywed dy lais
Yn fy ngalw i yn ôl o′r paith
O′r diffeithch fuodd gynt
Yr wyf yn hwylio ar y gwynt

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Fans

»Clywed Dy Lais« gefällt bisher niemandem.