Songtexte.com Drucklogo

Ceidwad y Goleudy Songtext
von Bryn Fôn

Ceidwad y Goleudy Songtext

Wrth gwrs fe gei di gerdded ar hyd fy llwybr,
Cei fynd lle y mynni ar fy nhir.
Wrth gwrs fe gei di gasglu mlodau harddaf,
Dim ond i ti addo dweud y gwir.
Wrth gwrs fe gei di gerdded i fy mwthyn,
Cei gynna' y tan a hwylio'r te.
Wrth gwrs fe gei di groeso ar fy aelwyd,
Dim ond i ti ebsonio be' 'di be.

Dyma gan a achubwyd o donnau y moroedd
Fe'i gwelwyd yno'n boddi gan geidwad y goleudy
Fe'i clywodd yn gweiddi 'A wnei di f'achub i?'
Can a oedd yn llithro rhwng muriau llaith anghofio
Ceidwad y goleudy ydwyf i.

Wrth gwrs gei di weddi wrth fy allor
Rhoddaf glustiau fy Nuw yn eiddo i ti
Wrth gwrs cei fedyddio dy blant yn nwr fy ffynon
Dim ond i ti ddysgu ngharu i

Dyma gan a achubwyd o donnau y moroedd
Fe'i gwelwyd yno'n boddi gan geidwad y goleudy
Fe'i clywodd yn gweiddi 'A wnei di f'achub i?'
Can a oedd yn llithro rhwng muriau llaith anghofio
Ceidwad y goleudy ydwyf i.
Ceidwad y goleudy ydwyf i.

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Quiz
Cro nimmt es meistens ...?

Fans

»Ceidwad y Goleudy« gefällt bisher niemandem.