Songtexte.com Drucklogo

Abacus Songtext
von Bryn Fôn

Abacus Songtext

Ti'n gadael i mi gredu bo gyn ti ddim diddordeb
Wedyn cynnig cysur, y cysur mwyaf glandag
Fethishi ymateb, mae'n rhaid mod i yn ddwl
Ond roeddet ti 'di chwarae 'fo Abacus fy meddwl

Ti'n gadael i mi greu y broblem o ddau un
Wedyn cynnig ateb, dy ateb di dy hun
Fedraim cael fy mhen rownd y sym anhygoel hon
Ti chwalu'r Abacus, Abacus fy nghalon

Mae un ag un yn ddau a chdi a fo 'di rheiny
Dwi'n cyfri dim i chdi - yr un odd sydd ddim yn rhannu
Ond cerddais lawr y bryn yn rhannu fy mreuddwydion
Yn tynnu gwallt fy mhen
Tynnu gwallt fy mhen
A chyfri fy mendithion

Ti'n gadael i mi feddwl fod rhywbeth yn y gwynt
Ond gwn yn mer fy esgyrn - ddaw'r ateb ddim ynghynt
Ti'n cynnig rhif dy ffon fel mathemateg pur
A'r cwbl dwi angen ydi'r ateb i fy nghur

Ti'n gadael i mi fynd efo cusan ar fy moch
'Di'r gawn ni rywbryd eto jysd ddim yn canu cloch
Y batri aeth yn fflat yn y gyfrifiannell hon
Ti di chwalu'r Abacus, Abacus fy nghalon

Mae un ag un yn ddau a chdi a fo 'di rheiny
Dwi'n cyfri dim i chdi - yr un odd sydd ddim yn rhannu
Ond cerddais lawr y bryn yn rhannu fy mreuddwydion
Yn tynnu gwallt fy mhen
Tynnu gwallt fy mhen
A chyfri fy mendithion

Un dau tri
Mam yn dal y pry
Pry wedi marw
Mam yn crio'n arw

Un ag un yn ddau a chdi a fo 'di rheiny
Dwi'n cyfri dim i chdi - yr un odd sydd ddim yn rhannu
Ond cerddais lawr y bryn yn rhannu fy mreuddwydion
Yn tynnu gwallt fy mhen
Tynnu gwallt fy mhen
A chyfri fy mendithion

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Quiz
Wer singt über den „Highway to Hell“?

Fans

»Abacus« gefällt bisher niemandem.