Songtexte.com Drucklogo

Cyn i'r Lle 'Ma Gau Songtext
von Y Bandana

Cyn i'r Lle 'Ma Gau Songtext

Tyrd i mewn i′r tŷ, 'stedda lawr, tyrd i mewn o′r gwynt a'r glaw
Hafan ydi hon, i'r gair, i′r gân ar gwpan llawn
Mae cerdd yn yr aer ac alawn yn muriau
A thân yn ein gwaed fel ein cyn-deidiau
Canwn gân, o. cyn i′r lle 'ma gau


Tyrd i mewn i′r tŷ, lle mae'r gwîr yn llifo fel y gwîn
Teimlad sydd mor hên, ar y wên. ar cerrig prin a′r prîdd
Mae'n llifo′n rhwydd trwy dy wythiennau
Doed pawb i'r fan croesffordd eneidiau
Canwn gân, o. cyn i'r lle ′ma gau

Os wyt ti ar goll yn y byd, heb run cyffaill ffeind na ffydd
Mae heddwch meddwl mwyn ai hôll swyn ar gael ar ben y strŷd
Mae′n llifo'n rhwydd trwy dy wythiennau
Doedd pawb i′r fan croesffordd eneidiau
Canwn gân, o. cyn i'r lle ′ma gau. ie.hei


Tyrd i fewn i'r tŷ ata ni, tyrd yn nes at wrês y bâr
A chodwn ein gwydrau fry, at y nen. a chŷd seiniwn iechyd da
Mae cerdd yn yr aer ac alawn y muriau
A thân yn ein gwaed fel ein cyn-deidiau
Canwn gân, cyn i′r lle 'ma gau

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Beliebte Songtexte
von Y Bandana

Fans

»Cyn i'r Lle 'Ma Gau« gefällt bisher niemandem.