Songtexte.com Drucklogo

Môr o Gariad Songtext
von Meic Stevens

Môr o Gariad Songtext

Eistedd yma′n unig
'Ben fy hun
Heno ′sdim amynedd
I helbul byd
Ond mae'r nos yn ffoi
Fel mae'r byd yn troi
Fel y môr o gariad
A roddais i ti


′Sdim byd yma heno
Ond adlais cariad mawr
Ac i′m gwydrau gweigion
Ar y llawr
Ac i gwpla'r llun
Yn y botel, gwaddod gwin
Gwaddod y môr o gariad
A roddais i ti

O, hwn oedd cariad glân
Hwn oedd cariad ffôl
O roeddwn i ar dân
Ie, ′sdim ar ôl

Strydoedd oer y ddinas
Strydoedd mor llawn
Atgofion fydd amdani
Ei serch a'i dawn

Serch hynny mae′n rhaid byw
Ymuno efo hwyl y criw
Sych yw'r môr o gariad
A roddais i ti
Ie, sych yw′r môr o gariad
A roddais i ti

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Beliebte Songtexte
von Meic Stevens

Fans

»Môr o Gariad« gefällt bisher niemandem.