Songtexte.com Drucklogo

Gadael Abertawe Songtext
von Huw Chiswell

Gadael Abertawe Songtext

Gadael Abertawe
Gyrru fel ffŵl
Rhywbeth wedi digwydd nawr
Methu cadw cŵl

Mor ddistaw yn y dre
Gweiddi yn fy sedd
Dylwn wbod gwell na mynd i ganol pethe dwl

Syth drw sgwar Dyfatty
Cymryd hewl y Cwm
Sbardun ar y llawr yn awr
Dechre plygu′n grwm

San Pedr Pontardawe yn oren yn y niwl
a'r lôn yn llifo tano′i
Y car yn canu Duw


Ces i nghodi yn y capel ar aer yr ysgol Sul
a wi'n canu'r hen emyne bob cyfle rownd y ril
Dim yn ddyn crefyddol
Angen rhywun ar fy ngwir
Nawr, Hosanna! Iesu rho dy law ar fy mhen
Wi′n credu mod i′n mynd
Wi'n credu mod i′n mynd

Munud ar ôl Ystrad, cyrraedd Craig y Nos
Llyged ar y troeon bum yn trafod gydol oes
Rhwbeth yn y gwrych, rhywun estron yn y drych
A rhwng y ddau ma'r olwyn ′tae yn tynnu am y ffos

Ces i nghodi yn y capel ar aer yr ysgol Sul
a wi'n canu′r hen emyne bob cyfle rownd y ril
Falle fydd e'n ddigon pan ddaw hi ar y du
Nawr, Hosanna! Iesu rho dy law ar fy mhen
Wi'n credu mod i′n mynd

Wi wedu colli ′nghrefydd ond dal i ddisgwyl Duw
Ac mae gen i bwt o hunan barch i fywyd fynd ar sgiw
Nawr, a nawr wi'n gadel m′angen rhywun wrth y llyw
Nawr, Hosanna! Iesu rho dy law ar fy mhen
Wi'n meddwl mod i′n mynd
Wi'n meddwl mod i′n mynd
Wi'n meddwl mod i'n mynd

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Beliebte Songtexte
von Huw Chiswell

Quiz
Wer singt das Lied „Applause“?

Fans

»Gadael Abertawe« gefällt bisher niemandem.