Songtexte.com Drucklogo

Cân Wleidyddol Songtext
von Endaf Gremlin

Cân Wleidyddol Songtext

Cael dy fagu ar deledu
A dy swyno gan y radio,
I baentio′r byd i gyd yn wyrdd
Tra'n caru a breuddwydio.
Cyn fy amser i mewn nefoedd
Roedd ′na nodau yn ymosod,
Ond ges i 'ngeni i ganol byd
Lle roedd popeth yma'n barod.
Roedd popeth yma′n barod.
O, roedd popeth yma′n barod.

Dyma gan wleidyddol
A s'gen a i ddim byd i′w ddeud.
'Di ddoe ddim am newid
Dio′m bwys faint o ganu dwi am 'neud.
Dyma gan wleidyddol
A s′gen a i ddim byd i'w ddweud.
'Di ddoe ddim am newid
Dio′m bwys faint o ganu dwi am ′neud.


Ydi popeth yn dibynnu
Ar deledu ac ar radio,
I fi gael 'sgwennu can
Am garu a breuddwydio?
Cyn fy amser i mewn oes
Ble roedd rheswm i ymosod.
Ond be′ dwi'n fod i ganu pan ma′
Popeth yma'n barod.
O, ma′ popeth yma'n barod.
Mae popeth yma'n barod.

Dyma gan wleidyddol
A s′gen a i ddim byd i′w ddeud.
'Di ddoe ddim am newid
Dio′m bwys faint o ganu dwi am 'neud.
Dyma gan wleidyddol
A s′gen a i ddim byd i'w ddweud.
′Di ddoe ddim am newid
Dio'm bwys faint o ganu dwi am 'neud.

Anghofiwch am deledu
Ac anghofiwch am y radio.
′Neith pwyntio bys ddim perswadio neb
I garu na breuddwydio.
Ydi wir i fyny i′r plant
I ddangos i ni'r clychau′n canu?
Di'r hen alawon gwerin
Ddim mewn rhyw gornel wedi meddwi.
Ddim mewn rhyw gornel wedi meddwi.
Ddim mewn rhyw gornel wedi meddwi.


Dyma gan wleidyddol
A s′gen a i ddim byd i'w ddeud.
′Di ddoe ddim am newid
Dio'm bwys faint o ganu dwi am 'neud.
Dyma gan wleidyddol
A s′gen a i ddim byd i′w ddweud.
'Di ddoe ddim am newid
Dio′m bwys faint o ganu dwi am 'neud.
Canu dwi am ′neud.
Canu dwi am 'neud.
Canu dwi am ′neud.

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Quiz
Welche Band singt das Lied „Das Beste“?

Fans

»Cân Wleidyddol« gefällt bisher niemandem.