Songtexte.com Drucklogo

Ar Ryw Noswaith Songtext
von Carreg Lafar

Ar Ryw Noswaith Songtext

Ar ryw noswaith yn fy ngwely
Ar hyd y nos yn ffaelu cysgu
Gan fod fy meddwl yn ddiame
Yn cydfeddwl am fy siwrne

Galw am gawg a dŵr i 'molchi
Gan ddisgwyl hyn i fy sirioli
Ond cyn rhoi deigryn ar fy ngruddiau
Ar fin y cawg mi welwn Angau


Mynd i'r eglwys i weddïo
Gan dybio' n siŵr na ddeuai yno
Ond cyn i mi godi oddi ar fy ngliniau
Ar ben y fainc mi welwn Angau

Mynd i siambr glos i ymguddio
Gan dybio 'n siŵr na ddeuai yno
Ond er cyn closied oedd y siambr
Angau ddaeth o dan y ddaear

Mynd i'r môr a dechrau ymrwyfo
Gan dybio' n siŵr na fedrai nofio
Ond cyn cyrraedd dyfnion donnau
Angau oedd y capten llongau

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Beliebte Songtexte
von Carreg Lafar

Quiz
Wer singt über den „Highway to Hell“?

Fans

»Ar Ryw Noswaith« gefällt bisher niemandem.