Songtexte.com Drucklogo

Hollti'r Maen Songtext
von Bwncath

Hollti'r Maen Songtext

Ella fod y byd yn gwegian
Ond mae′r haul yn teimlo'n braf
A ′na i gaw'r teimlad yma
'Na i gadw do′i fynd drwy gydol yr haf
Ond mae′n anodd gweld y gwanwyn
Tra mae'r gaeaf o dy flaen
Fel mae dŵr pan yn ddiferyn
Yn ′i gweld hi'n anodd hollti maen

O′ a weli di
Mai'r rhai sy′n dal yn awr sy'n dal ni'n ôl
Mae′n anodd os ti dal heb ′i weld o
O' a gredi di
Mai′r rhai sy'n llai sy′n cael eu llais yn ôl
Mae'n anodd ond mae′n wir, mor wir


Pan y byddi yn mynydda
Tydi'r llwybr weithiau'n serth
A′r holl bwysau ar dy ′sgwydda'
Yn drymach fyth wrth golli nerth
Ond mae gobaith yn dy ddwylo
Ac mae′th galon yn dy fron
Felly dos ymlaen i grwydro
A chofia bwyso ar dy ffon

O' a weli di
Mai′r rhai sy'n dal yn awr sy′n dal ni'n ôl
Mae'n anodd os ti dal heb ′i weld o
O′ a gredi di
Mai'r rhai sy′n llai sy'n cael eu llais yn ôl
Mae′n anodd ond mae'n wir
O′ a gredi di
Mai'r rhai sy'n dal yn awr sy′n dal ni′n ôl
Mae'n anodd os ti dal heb ′i weld o
O' a weli di
Mai′r rhai sy'n llai sy′n cael eu llais yn ôl
Mae'n anodd ond mae'n wir, mor wir

Ma′i mor anodd gweld y gwanwyn
Tra mae′r gaeaf o dy flaen
Fel mae dŵr pan fesul diferyn
Bob tro'n llwyddo′i hollti'r maen

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Fans

»Hollti'r Maen« gefällt bisher niemandem.